Nid ar chwarae bach mae gadael eich plant chi yng ngofal rhywun arall; dydyn ni ddim yn diystyrru’r anrhydedd honno. Ein nod ni ydy eich bod chi’n rhan o bob un cam ar y ffordd.
Mae’n polisïau, gwerthoedd ac ethos yn gwmpawd ac yn fap ar gyfer ein partneriaeth ni. Rhain yw’r tirwedd a’r cyfeiriad ar gyfer naws a nod cytûn holl randdeiliaid ein partneriaeth. Pan fo dibyn annisgwyl, neu oledd serth yn ymddangos, dewn at ein gilydd i gryfhau ein partneriaeth a darganfod ffordd ymlaen.
Oherwydd, y plant sy’n anad neb - yr hyn rydym ni’n rhannu, y bobl sydd ganddon ni’n gyffredin. Felly ar bob achlysur, gweithio gyda’n gilydd sydd yn arwain at y deilliannau gorau.
Popeth sydd ei angen ar eich plentyn
Clwb Gofal Plant
Clwb Brecwast
Cwynion
Cysylltwch â ni
Llywodraethwyr a'u gwaith
Y Corff Llywodraethu
Gall gofal plant cyn ac ar ôl y diwrnod ysgol fod o gymorth enfawr i deuluoedd.
Rydym yn hyrwyddo hawl y plentyn i chwarae ac yn credu dylai hynny ddigwydd yng nghyd-destun gofal plant o ansawdd da sy’n cwrdd ag anghenion y plant, eu teuluoedd a’u cymunedau.
Mae’r Clwb Carco sydd yn Ysgol Sant Baruc yn cael ei redeg gan gwmni allanol Les Tous Grands.
Am ragor o wyboaeth am Les Tous Grands, ac i archebu lle i’ch plentyn chi, pwyswch y ddolen isod.
Wedi’i sefydlu yn 2020 gan athrawon cerddoriaeth lleol, mae Ysgol Gerdd Morgannwg yn darparu gwersi fforddiadwy ac o ansawdd da i bawb.