Mae’r campws newydd sbon wedi’i ddylunio i’r dim er mwyn darparu addysg gyfoes sy’n cynnwys pob aelod o’n cymuned ni.
Mae plant yn mwynhau eu dysgu! Cyfunwn chwarae a phrofiadau i ddarparu cyfleoedd dysgu ystyrlon, cyffrous dan do ac yn yr awyr agored. Mae plant yn gwneud cynnydd cadarn ar hyd eu taith yma ac, wrth wneud, yn meithrin awch gydol-oes i barháu i fentro a dysgu.
Mae teuluoedd yn rhan ganolog o gymuned yr ysgol. Maen nhw’n teimlo yn rhan o bethau ac wedi’u gwerthfawrogi. Maen nhw’n cyfrannu at gyfoeth ein cymuned.
Dau flaenoriaeth sy’n cymryd bryd athrawon: datblygu perthnasoedd da gyda disgyblion a chymuned yr ysgol a pherffeithio a mireinio eu crefft o addysgu.
Ein Cymreictod sydd yn ein uno a’n cymell.
Ein Gwerthoedd
Drych i’n ymagweddau ac uchelgeisiau ydy ein hethos. Ein gwerthoedd ydy’r egwyddorion sy’n ffurfio’r ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn ymddwyn. Dyma’r ffordd rydyn ni’n gwneud pethau a dyma’r ffordd ydyn ni.
Cwestiwn am dei neu grys? Pendroni am wyliau neu waith cartref? Dyma’r man i gael gwybod popeth sydd angen ynglyn â bywyd yn Ysgol Gymraeg Sant Baruc.
Cymuned ag un nod ydym ni; tîm sy’n gweithio gyda’i gilydd. Mae gan bawb eu rôl, ac mae pawb yn chwarae eu rhan yn natblygiad a chynnydd y plant.