Y Neuadd Fawr
Cewch hyd i’r Neuadd Fawr ar y llawr gwaelod. Mae’n 154m2 (15.5m x 10m) ac mae’r lloriau a’r llwyfan yn ei gwneud yn wagle hyblyg, hygyrch ar gyfer ystod eang o weithgareddau.
Byddai’n le delfrydol i gynnal parti, chwaraeon dan do neu ddigwyddiad.
Y Stiwdio
Mae’r Stiwdio lan stâr. Ychydig yn llai na’r Neuadd, mae’n fan delfrydol ar gyfer grwpiau llai, gwersi dawns, clybiau ioga, ymarfer côr neu ddigwyddiadau canolig eu maint.
Mae’r ystafell yn 87m2 (9.2m x 9.2m) ac mae 60 o gadeiriau ar gael i’w defnyddio.