Shwmae!
Byddai Mam yn dweuthoch chi bod chwarae ‘ysgol’ yn un o’m hoff bethau pan yn blentyn. Gallai ‘mrawd a chwaer ategu at fy ymdrechion i’w siarsio i ymuno yn y gêm ond, gan amlaf, prin oedd fy llwyddiant yn hynny o beth!
Doedd hi’n syndod i neb, felly, pan y cymerais i’r cam cyntaf ar fy nhaith i’r ysgol hon a chychwyn astudio i fod yn athrawes ym Mhrifysgol y Drindod.
Fy nghymelliant o’r cychwyn cyntaf oedd gwerthfawrogiad o rym ac ehangder addysg dda. Mae i addysg lawer mwy na dysgu gwersi, ychydig o farcio a gwyliau hir!
Mae addysg dda i wneud â’r person cyfan, â’r gymuned ar ei hyd: eu dyfodol, eu galluoedd, eu cyfraniad. O fewn gafael addysg dda mae’r potensial am wneud gwahaniaeth sylweddol.
Dyma olud ac ymdrech yn yr un mesur.
Golud oherwydd does dim llawer mwy gwerthfawr na chyd-weithio â chymuned agos, gynnes mewn modd sy’n sicrhau llwyddiant a chynnydd plant. Ymdrech achos nid chwarae bach mo hynny. Mae’n gyfrifoldeb sylweddol, difrifol - mae’n galw am fôn braich.
Mae ganddon ni gyfle euraid i dorchi llewys, rhoi’n dwylo ar yr aradr, edrych syth ymlaen a thorri cwys carfan ar ôl carfan o’n dyfodol ni gyda’n gilydd. Mae’n hymdrechion yn gwneud gwahaniaeth. Mae’r gwahaniaeth hwnnw mor werthfawr. Yn yr orchwyl mae’r cyfoeth; yn y golud mae’r gwaith.
Rydw i’n ei hystyried hi’n fraint cael gweithio tuag at yr amcanion hyn trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n allweddol bod addysg Gymraeg yn llwyddiannus ac rwy’n falch o gael chwarae fy rhan fach i.
A ninnau newydd groesi trothwy ein hadeilad newydd, rydym yn gcychwyn pennod newydd yn hanes llewyrchus Ysgol Sant Baruc. Anrhydedd personol ydy cael arwain ein cymuned glós ar ein cam nesaf.
Wrth wneud, fy nod yw adeiladu ar lwyddiant ac enw da Ysgol Sant Baruc a chynnal ein hethos groesawgar, cyfeillgar, a gofalgar - a gwneud hynny i gyd wrth feithrin mwynhad siarad Cymraeg a balchder gydol oes o’r iaith Gymraeg, tref y Barri a Chymru ein gwlad.