Dyma edefyn euraid sy’n cysylltu sawl agwedd o’n bodolaeth; mewn ffordd o siarad, mae’n iaith yn ei hunan.
Mae datblygu sgiliau rhifedd a mathemateg yn digwydd drwy chwarae yn y blynyddoedd cynnar - trwy archwilio a darganfod; trwy adnabod rhifau a’u henwi; trwy ymarfer cyfri, cyn dechrau gyda chyfrifiadau syml.
Wrth i’r gwaith dyfu’n fwyfwy cymhleth, mae’r sgiliau cychwynnol yna yn datblygu. Mae plant yn dechrau darganfod rhifau coll, cyfri a threfnu mewn i araeau. Mae’r sgiliau yma i gyd yn allweddol wrth ddatblygu rhuglder mathemategol.
Nes ymlaen, wrth i blant aeddfedu, maen nhw’n datblygu’r sgiliau i weithio’n annibynnol ac mewn grwpiau. Maen nhw’n defnyddio’r seiliau cadarn sydd ganddyn nhw er mwyn archwilio dulliau newydd o ddefnyddio eu sgiliau Mathemateg.
Ymhen hir a hwyr, mae plant yn cymhwyso eu sgiliau Mathemateg i broblemau geiriol, sefyllfaoedd bywyd go iawn, ac - wrth feddwl am symbolau sy’n cynrychioli rhifau - ddechrau meddwl yn haniaethol.
Ond nid dim ond symiau a thablau ydy Mathemateg! Mae’n cynnwys Rhifedd - cymhwso sgiliau Mathemateg i’r byd go iawn.
Mae’n gofyn am ddealltwriaeth dwfn o rifau a’r perthnasau rhyngddynt, y gallu i ddefnyddio sgil mewn cyd-destun newydd, a darganfod datrysiadau.
Mae’r her gynhenid yn meithrin dygnwch, mwynhad, a boddhad llwyddiant.
Does dim rhyfedd felly, bod datblygiad Mathemateg a Rhifedd yn bwysig i ni yma - rydym ni eisiau i’n disgyblion fedru’r cyfan.