Ar lan y môr mae’n hysgol ninnau - a thros sŵn y tonnau sydd o’n cwmpas a hynt a helynt tref y Barri o’n tu, estynnwn groeso cynnes i chi i Ysgol Gymraeg Sant Baruc.
Ond, er ein bod ar y glannau, torri tir newydd sydd ar droed. Torri tir campws newydd sbon danlli a hithau wedi’i lunio ar gyfer ei oes.
Torri tir i ddarparu cartref newydd i hanner canrif o dreftadaeth addysgol ac, wrth i’r ysgol lenwi dros y degawd i ddod, dros 400 o blant.
Torri tir i’r iaith Gymraeg a’i ffyniant parhaus yn y Barri a Bro Morgannwg. Cadwn un llygaid ar ein gorffennol, a’r llall ar y gorwel.
Yn adlais olion diwydiant gynt, cewch nawr sŵn a gweithgarwch diwydiant o fath gwahanol: sŵn chwerthin a mwynhau cymuned glòs, llon ein hysgol ni.
O sefyll ar faen Credu, mae rhywun yn barod i geisio, a cheisio ydy amod cyntaf cyflawni. Yn ein hysgol ni, gosodwn werth ar ymdrech. Rydym ni’n meddwl bod rhoi cynnig ar rywbeth yn ddeilliant yn ei hunan ac un sy’n llawn haeddu canmoliaeth. Gwyrth ymdrech ydy ei fod, o’i brofi, yn atgyfnerthu ac ail-ysgrifennu yr hyn a gredwn am ein hunain - dydy’r stori heb ei gorffen eto. Hud a lledrith ydy hyn - o gredu, daw ceisio ac o geisio, daw cyflawni.
Yn ein hysgol ni, gosodwn werth ar ymdrech. Rydym ni’n meddwl bod rhoi cynnig ar rywbeth yn ddeilliant yn ei hunan ac un sy’n llawn haeddu canmoliaeth. Gwyrth ymdrech ydy ei fod, o’i brofi, yn atgyfnerthu ac ail-ysgrifennu yr hyn a gredwn am ein hunain - dydy’r stori heb ei gorffen eto. Hud a lledrith ydy hyn - o gredu, daw ceisio ac o geisio, daw cyflawni.
Yn Ysgol Sant Baruc, rydym yn gwybod taw amod Llwyddo ydy ymdrech barhaus, ymarfer a mireinio. Llwyddo ydy ffrwyth ymdrech ar ôl ymdrech dros amser. Mae’n harfordir yn dyst i effaith ymdrech ton ar ôl ton ar ei ffurf. Mae’n tref yn brawf sut gall gosod gofalus un bric ar ôl y llall weddnewid lle yn llwyr. Ddigwyddodd y naill na’r llall o’r rhain dros nos.
Tu fewn, cewch 15 o ystafelloedd dosbarth gan gynnwys dosbarth at bwrpas i’r Meithrin. Mae dwy neuadd - un fawr lawr llawr, un llai lan staer. Tu allan, cewch gaeau eang a llain galed aml-bwrpas. Cysegrir rhai ardaloedd ar gyfer gerddi a rhai ar gyfer planhigion a bywyd gwyllt. Mae’r WiFi yn ymestyn i bob cwr a chornel o’r campws - tomen o gyfleoedd i gael dysgu a chwarae yn yr awyr agored. Mae llawer o’r cyfleusterau ar gael i’w llogi gan y gymuned ehangach tu hwnt i oriau’r ysgol.
“Mae addysg dda i wneud â’r person cyfan, â’r gymuned ar ei hyd: eu dyfodol, eu galluoedd, eu cyfraniad. O fewn gafael addysg dda mae’r potensial am wneud gwahaniaeth sylweddol.”
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now